Cyrsiau Byr a DPP

Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth am ddyslecsia mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.

Rydym yn cynnig y gwasanaeth canlynol yn y ganolfan:

Gweithdai a sesiynau hyfforddi i rieni, ysgolion unigol ac Awdurdodau Addysg Lleol drwy drefniant

Os ydych chi'n ystyried pecyn/diwrnod hyfforddi, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.  Mae sesiynau pwrpasol yn cael eu datblygu â chryn ofal i dargedu eich gofynion penodol.

Mae sesiynau o’r fath wedi cael eu cyflwyno i Heddlu Gogledd Cymru, Awdurdod Addysg Lleol Sir Ddinbych, ysgolion lleol, grwpiau rhieni a Sylfaen ymhlith eraill.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch cdm-hyfforddiant@bangor.ac.uk.

Cyngor a gwasanaeth ymgynghori i rieni, athrawon ac ysgolion

Cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch cdm-hyfforddiant@bangor.ac.uk.